Diweddariad / Update

Yn dilyn cyfnod o ddiffyg gweithgarwch, dwi wedi llwyddo i wneud ychydig o waith ar y wefan dros y misoedd diwetha, gan gynnwys:
– cyhoeddi’r daith llinellol olaf, o Gastell-nedd i Rydaman;
– cyhoeddi trosolwg o’r teithiau llinellol o’r Fenni i Rydamman, o dan yr enw Ymdaith Olwen;
– diweddaru’r dolenni at fapiau fel eu bod yn arwain at OutdoorActive, gan nad ydi Viewranger bellach yn weithredol. Ar yr un pryd, rwy wedi rhoi trefn ar fy nghyfri OutdoorActive – gallwch ganfod yr holl deithiau sydd ar y wefan hon, ac ambell un arall, yno.

Dwi’n gobeithio gallu parhau i ddiweddaru’r wefan hon dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Y flaenoriaeth fydd cwblhau ymweld â holl Farilyns Morgannwg a Gwent. Tra bydd disgrifiadau yn ymddangos yma, mae’n debyg y byddant yn fyrrach nag yn y gorffennol, gan ganolbwyntio ar lefydd o ddiddordeb ar y ffordd yn hytrach na chyfarwyddiadau, gyda’r mapiau’n gwneud y gwaith o alluogi bobl i ddilyn y daith.

Rwy hefyd yn bwriadu ail-ymweld â, a diweddaru’r teithiau a gyhoeddwyd yn y gyfrol Walking in the South Wales Valleys, ac yna eu cyhoeddi yn llawn yma.

Diolch am ddarllen, a siwrne braf i chi
Following a period of inactivity, I’ve managed to do some work on the website over the past few months, including:
– publishing the final linear walk, from Neath to Ammanford;
– published an overview of the linear walks from Abergavenny to Ammanford, under the name Olwen’s Odyssey;
– update the links to maps so that they lead to OutdoorActive, as Viewranger is no longer active. At the same time, I’ve tidied up and updated my OutdoorActive page – you can find all the walks on this website, and a few others, there.

I hope to be able to continue updating this website over the coming months and years. The priority will be to complete the talk of visiting all the Marilyns of Glamorgan and Gwent. While descriptions will appear here, they will probably be shorter than in the past, focusing on places of interest on the way rather rather than on directions – the maps will do the work of enabling people to follow the route.

I also plan to re-visit and update the walks published in the Walking in the South Wales Valleys book, and then publish them in full here.

Thanks for reading, and happy walking!

Castell-nedd i Rhydaman


This post describes a 20 mile linear walk in south Wales from Neath to Ammanford, via Pontardawe. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Castell-nedd i Rhydaman

Hyd: 20 milltir
Her: anodd
Amser: tua 10 awr
Lluniaeth: Castell-nedd, Pontardawe, Rhydaman
Man cychwyn a gorffen:  Gorsafoedd tren Castell-nedd a Rhydaman. Byddwch angen gwiro yr amseroedd tren a sicrhau bod gennych amser i ddal tren yn ol i’r man cychwyn. Mae’n bosib y bydd natur yr amserlen yn ei gwneud yn haws gwneud y daith y ffordd arall, gan orffen yng Nghastell-nedd. Lluniaeth ar gael yng Nghastell-nedd, Pontardawe, a Rhydaman.

Map a manylion ar Ordnance Survey
Map a manylion ar OutdoorActive


Dyma ni o’r diwedd felly wedi cyrraedd cymal olaf y daith hir o’r Fenni i Rhydaman, o Sir Fynwy i Sir Gâr, drwy galon Morgannwg. Ar y ffordd, rydym wedi croesi maes glo de Cymru. o dref farchnad hanesyddol y Fenni yn nyffryn llydan a glas yr Wysg ar gyrion y Mynyddoedd Duon, i dref ddiwydiannol Rhydaman wrth droed y Mynydd Du unig.

Er y pellter daearyddol, a’r gwahaniaethau diwyllianol, rhwng y ddwy dref mae ganddynt lawer yn gyffredin hefyd. Rydym yn gorffen fel y gwnaethom gychwyn, ymysg y cylch o hen weithfeydd haearn sy’n amgylchynu y maes glo ei hun. Sefydlwyd gwaith haearn yng Nghastell-nedd, fel yng Nglyn Ebwy, ar ddiwedd y 18eg ganrif, pan oedd rhan helaeth de Cymru yn dal i fod yn wledig a diarffordd, a tua chanrif cyn anterth y diwydiant glo.

Mae’n addas efallai ein bod yn coroni’r gyfres gyda’r cymal hiraf oll, gyda taith o ugain milltir –  yn anffodus, mae rheilffyrdd yn mynd yn fwy prin wrth i ni fynd tua’r gorllewin! Siwrne saff i chi.

Darllen y cofnod yn llawn…

Graig Syfyrddin


This post describes a 5.5 mile walk up Graig Syfyrddin/Edmund’s Tump from Grosmont. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Graig Syfyrddin

Hyd: 5.5 milltir
Her: canolig
Amser: tua 3 awr
Man cychwyn a gorffen: Grosmont
Uchder: 423m
Categori: Marilyn

Map a manylion ar Ordnance Survey
Map a Manylion ar OutdoorActive


Roedd yna reswm arall pam y bu f’ymweliad â Choed Gwent yn un mor frysiog – roeddwn am wneud y gorau o ddiwrnod rhydd drwy gwblhau dau fryn anghyfleus eu lleoliadau ar yr un diwrnod. Yr ail gopa, a’r un mwy diddorol yr olwg o’r ddau, oedd Graig Syfyrddin. Os edrychwn ar fap o Farilyns de Cymru, mae hon yn sefyll ar ei phen ei hun, cryn bellter o bob un arall, a dim ond rhyw filltir o’r ffin â Lloegr. Da o beth felly ei bod yn un sydd werth mynd allan o’ch ffordd i’w dringo, a bod modd cyfuno hynny gydag ymweliad â chastell gwerth chweil Grosmont.

Graig Syfyrddin yn Gymraeg: Edmund’s Tump yn Saesneg. Dwi wedi methu a dod o hyd i unrhyw esboniad o’r enwau hyn, ac eithrio’r cyfeiriad yma gan y bythol wybodus a chymwynasgar Dylan Foster Evans at y posibilrwydd ei bod yn dwyn enw Seru ap Glywys, un o blant ac etifeddion sylfaenydd honedig teyrnas ôl-Rufeinig Glywysing ar hen diriogaeth y Silwriaid ym Morgannwg a Gwent.

Darllen y cofnod yn llawn…

Coed Gwent


This post describes a 3.5 mile including the summit of Wentwood. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Coed Gwent

Hyd: 3.5 milltir

Her: hawdd

Amser: tua awr

Man cychwyn a gorffen: maes parcio Cadira Beeches (ST442949)

Uchder: 309m

Categori: Marilyn

Map a Manylion ar Ordnance Survey
Map a Manylion ar OutdoorActive


Mae arfaf ofn fy mod wedi bod yn ddiog. Fy mwriad o’r dechrau wrth fynd ati i gerdded pob Marilyn ym Morgannwg a Gwent oedd y byddai yna daith gylch ddymunol ar gyfer pob un, gan gychwyn yn ddigon agos at droed y bryn i roi dringfa foddhaus. Bydd yn amlwg i bawb nad ydi’r daith hon yn cyrraedd y meini prawf hynny.

Photo 04-09-2018, 10 18 38

Copa Coed Gwent

Y gwir amdani ydi fod y cyfle i ymweld a Choed Gwent wedi dod yn annisgwyl un diwrnod, heb lawer o amser i ymchwilio o flaen llaw. A roedd yr ymchwil y llwyddais i’w wneud yn awgrymu ei bod yn anodd gwneud taith gylch o unrhyw hyd nad oedd bron yn gyfan gwbl o fewn y goedwig neu’n golygu cerdded am beth amser ar ffyrdd. Bu’n rhaid bodloni felly ar daith syml, fer, yn manteisio a’r faes parcio Cadira Beeches ar y ffordd rhwng Cil-y-coed a Brynbuga, llai na milltir i ffwrdd o’r copa .

Er mwyn ychwanegu rhywfaint o ddiddordeb at yr

Photo 04-09-2018, 10 45 02

Y Curley Oak

ymweliad, mi ymestynais y daith i ymweld a’r Curley Oak – y goeden hynaf o fewn coedwig Coed Gwent, sy’n rhan o’r goedwig hynafol fwyaf yng Nghymru. Arferai’r goedwig hon fod yn llawer mwy. Cyn i lawer o’i choed gael eu cwympo ar gyfer amaeth, llongau rhyfel, golosg i’r diwydiant haearn, neu drawstiau i ffosydd y Rhyfel Mawr, ymestynai’r goedwig hon o’r Wysg i’r Gwy. Dyma hefyd y coed a rannai Teyrnas Gwent yn ddau gantref: Gwent Uwch-coed i’r gogledd iddi a Gwent Is-coed i’r de.

Mae’n ardal y bydd yn rhaid i mi ddychwelyd iddi eto pan bydd gen i fwy o amser; yn ogystal a’r goedwig ei hun, mae Taith Dyffryn Wysg, sydd yn pasio heibio i Goed Gwent ar y ffordd o Gaerleon i Aberhonddu yn apelio’n fawr.

Photo 04-09-2018, 09 59 29

Llwybrau cerdded Coed Gwent

Glyn Ebwy i’r Fenni


This post describes a 16 mile linear walk in south Wales from Ebbw Vale to Abegravenny, via Blaenavon. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Glyn Ebwy i’r Fenni

Hyd: 16 milltir
Her: anodd
Amser: tua 8 awr
Lluniaeth: Glyn Ebwy, Blaenafon, Y Fenni
Man cychwyn a gorffen:  Gorsafoedd tren Glyn Ebwy a’r Fenni. Trên  bob awr rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy (Llun i Sadwrn), gydag un neu ddau yr awr o’r Fenni.

Map a Manylion ar Ordnance Survey
Map a manylion ar OutdoorActive


Am bron i hanner canrif, rhanwyd Ewrop gan y ‘llen haearn’. Ond mae’r ”mynydd haearn’, neu’r Blorens, wedi rhannu de Cymru am lawer iawn yn hirach. I’r gorllewin o’r mynydd hwn ceir cymoedd cul a rhostiroedd llwm; y Klondyke Cymreig wedi ei siapio gan lo a haearn; tai teras a chapeli Fictorianiaidd; gwleidyddiaeth radical crud y chwyldro diwydianol a’r gwasanaeth iechyd. I’r dwyrain ar y llaw arall mae gwastadeddau ffrwythlon; cestyll Normanaidd; pentrefi bach gwledig gyda’u eglwysi canoloesol; perllannau, a hyd yn oed ambell i winllan; tai crand efo gerddi mawr.

Er ei fod bellach o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, perthyn y Blorens yn ddaearegol i’r maes glo: y talp olaf o dywodfaen yn gwahanu cymoedd Gwent a dyffrynoedd llydan Wysg a Gwy i’r dwyrain. Ond bu cysylltiad agos erioed rhwng trigolion blaenau cymoedd Gwent a’u tref farchnad hanesyddol yn y Fenni, a chyn dyfod y rheilffyrdd, roedd y Blorens yn rhwystr yr oedd rhaid ei groesi er mwyn cael cynyrch gweithfeydd haearn Blaenafon at y môr a’r byd.

Wedi ei lleoli ble mae’r Wysg yn gadael y mynyddoedd, mae’r Fenni yn safle strategol o bwys ers canrifoedd. Cododd y Rhufeiniaid a’r Normaniaid gaerau yn y Fenni i amddiffyn eu llwybrau tua’r gorllewin ac i gadw llygad ar Gymry anystywallt y bryniau. Mae’n le priodol iawn felly ar gyfer pen draw dwyreiniol y teithiau llinellol hyn drwy’r cymoedd.

Am rhyw reswm, mi wnes i’r daith hon mewn cyfeiriad gwahanol i’r lleill i gyd, gan gerdded tua’r dwyrain o Lyn Ebwy i’r Fenni. Mae’n ddigon hawdd ei gwneud i’r cyfeiriad arall gan ddefnyddio’r map.

Darllen y cofnod yn llawn…

Pont-y-pŵl i dref Glyn Ebwy


This post describes a 16 mile linear walk from Pontypool to Ebbw Vale in the south Wales valleys. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Pont-y-pŵl i dref Glyn Ebwy

Hyd: 16 milltir
Her: anodd
Amser: tua 8 awr
Lluniaeth: Pont-y-pŵl, Six Bells, Glyn Ebwy
Man cychwyn a gorffen:  Gorsafoedd tren Pont-y-pŵl (Pont-y-pŵl a New Inn) a Glyn Ebwy. Trên neu ddau bob awr rhwng Caerdydd a Pont-y-pŵl, ac un yr awr o Lyn Ebwy (Llun i Sadwrn)

Map a Manylion ar Ordnance Survey
Map a manylion ar OutdoorActive


Weithiau, fe fydd taith yn eich siomi, gyda’r addewid oedd wedi ei awgrymu ar y map o flaen llaw ddim yn cael ei wireddu. Dro arall, does dim ar bapur i awgrymu y bydd taith yn un arbennig o ddiddorol, ond o’i cherdded fe ddewch ar draws lleoedd a phethau annisgwyl i’ch atgoffa o’r pleser sydd i’w gael o gerdded llwybrau newydd. Taith felly oedd hon o Bont-y-pŵl i dref Glyn Ebwy, gyda pharc Pont-y-pŵl, tirwedd ôl-ddiwydiannol Cwm Nant Ddu, ffordd frics Cwm Nant y Groes, hanes dyfarnwr pêl-droed, a daeareg a golygfeydd y Darren Ddu i gyd yn berlau annisgwyl.

Darllen y cofnod yn llawn…

Mynydd Allt y Grug


This post describes a 5 mile circular walk up Allt-y-grug from Cwm-twrch, near Ystradgynlais. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Mynydd Allt y Grug

Hyd: 5 milltir
Her: hawdd
Amser: tua 2-3 awr
Man cychwyn a gorffen: Cwmtwrch Isaf
Uchder: 338 medr
Categori: Marilyn

Map a Manylion ar Ordnance Survey 
Map a Manylion ar OutdoorActive


Mae sawl gwahanol gyd-deithiwr wedi bod gyda mi ar y teithiau sydd wedi eu disgrifio yma hyd yn hyn: weithiau yn unigolyn neu ddau, weithiau yn grwp o gerddwyr o Tiger Bay Ramblers neu Glwb Mynydda Cymru. Dydw i ddim yn tueddu i’w crybwyll nhw fel arfer, ond mae’n briodol y tro yma i son am fy nghydymaith mwya ffyddlon, sydd wedi bod efo fi ar bob un o’r naw Marilyn hyd yma, sef Heledd fy merch. Tydi Heledd ddim yn ddwy oed eto, felly mewn pac ar fy nghefn y mae hi wedi bod yn teithio, a mae’r ffaith fy mod wedi gallu mynd a hi efo fi wedi caniatau i mi wneud llawer mwy o gerdded dros y ddwy flynedd ddiwethaf na fyddai wedi bod yn bosib fel arall. A bod yn onest, tydi safon y sgwrs heb fod yn grêt, ond ma hi wedi bod yn cadw fyny efo fi heb unrhyw drafferth chwarae teg iddi hi….

Y rheswm dwi’n crybwyll Heledd rwan ydi am ei bod yn debygol mai hon oedd taith olaf Heledd am beth amser. Y rheswm am hynny ydi – a dwi’n gwybod nad ydi hyn yn beth cwrtais i ddeud am ddynes o unrhyw oed – mae hi wedi mynd yn rhy drwm!

IMG_7008a

Heledd ar Pen-y-Ghent hâf diwethaf

Ar ben hynny, rwy’n amau bod y Marilyns sy’n weddill yn anoddach ar y cyfan na’r rhai sydd wedi bod, ac felly beryg y bydd rhaid i Heledd ymddeol o’i rôl ‘cefn llwyfan’ efo Silwria – am y tro o leiaf. Efallai y gwnaiff hi ail-ymuno â mi eto pan mae’n ddigon hen i dynnu ei phwysau ei hun, er mae’n siŵr y bydd hi’n meddwl bod ganddi bethau gwell i wneud efo’i hamser erbyn hynny….

Mae peth amser wedi pasio ers i mi ymweld â Marilyn newydd, ac felly yng nghanol mis Mawrth, ar ddiwrnod braf rhwng y glaw a’r eira yr es efo Heledd, a Betsan y wraig, i fyny Mynydd Allt y Grug – un o’r rhai lleiaf ym Morgannwg.

Darllen y cofnod yn llawn…

Crosskeys i Bont-y-pŵl


This post describes a 9 mile linear walk from Crosskeys to Pontypool in the south Wales valleys, via Twmbarlwm and Mynydd Maen. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Crosskeys i Bont-y-pŵl

Hyd: 9 milltir
Her: hawdd/canolig
Amser: tua 7 awr
Lluniaeth: Crosskeys a Pont-y-pŵl
Man cychwyn a gorffen:  Gorsafoedd tren Crosskeys a Pontypwl (Pont-y-pŵl a New Inn). Tren bob awr rhwng Caerdydd a Crosskeys, ac un neu ddau yr awr o Bont-y-pŵl (Llun i Sadwrn)

Map a manylion ar Ordnance Survey

Map a manylion ar OutdoorActive


Daeth y ddiwethaf o’r teithiau llinellol a ni o bentref Ffynnon Taf ar gyrion Caerdydd, ar hyd ymylon deheuol ucheldir Morgannwg, cyn croesi’r Rhymni i gyrraedd y Sir Fynwy hanesyddol a gorffen yn Crosskeys, yn nwfn yng nghymoedd Gwent ar lan yr afon Ebwy. Yn yr hen Sir Fynwy/Gwent byddwn yn aros felly am dair taith olaf y gyfres a fydd yn ein tywys yn y pen draw i dref y Fenni.

Photo 25-11-2017, 10 19 47

Y gamlas yn Crosskeys

Ar ôl taith o 14 milltir y tro diwethaf, mae’r daith hon yn gymharol fer a syml o’r ‘cwm gorllewinol’ i’r ‘cwm dwyreiniol’, fel y gelwir yr Ebwy a’r Llwyd yng nghyd-destun Sir Fynwy. Byddwn yn croesi Mynydd Henllys, Mynydd Maen a Mynydd Twyn-glas, ond gan mai enwau ar rannau gwahanol o’r un bryn yw’r rhain mewn gwirionedd, mae rhan helaeth y dringo yn digwydd ar ddechrau’r daith, o Crosskeys at Twmbarlwm. Mae’r daith hefyd yn cychwyn a gorffen ar wahanol ganghennau o Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog, sydd o bosib y gamlas sydd wedi ei chadw orau yn ne Cymru i gyd.

Darllen y cofnod yn llawn…

Her Tri Chopa De Cymru

Ar ôl bwriadu gwneud ers talwm, ond wedi methu a gwneud y dyddiad am amrywiol resymau am y bedair mlynedd ddiwethaf, ddoe mi gymrais ran yn Her Tri Chopa De Cymru am y tro cynta.

Taith her yn ardal Y Fenni a’r Mynyddoedd Duon wedi ei threfnu gan Grŵp Awyr Agored Caerdydd ydi hon, gyda dewis o bedair her – efydd, arian, aur a platinum. Yr olaf o’r rhain wnes i a chriw o ffrindiau o Tiger Bay Ramblers ddoe.

Tra bo’r dair her arall yn deithiau cylch o wahanol bellteroedd yn cychwyn a gorffen yn Y Fenni, mae’r her platinum yn daith linellol o Landdewi Nant Honddu dros Bâl Mawr, Pen Cerrig Calch a Phen y Fâl i’r Fenni. Roedd tua 200 o bobl yn gwneud y daith hon, i gyd yn cael eu cludo ar fysiau o’r Fenni i’r man cychwyn am 8 o’r gloch yn y bore. Tra bo rhaid cael eich cerdyn wedi ei farcio ar ben y tri copa ac ym mhentref Llanbedr rhwng Pen Cerrig Calch a Phen y Fâl, does dim rhaid dilyn llwybr penodol rhwng y llefydd hynny er roedd y rhan fwya o bobl, fel ni, i weld yn dilyn y llwybr a awgrymir ar y wefan.

Taith o dros 19 milltir i gyd felly gyda dros 5,700 troedfedd o ddringo – mae gan y tri mynydd lethrau hir a serth i’w dringo, a rhaid disgyn reit yn ol i lawr i’r dyffryn rhwng bob un. Fe arhosodd ein criw i gyd efo’i gilydd gan wneud y daith mewn 9 awr a hanner. Gallwch weld y trac ar Viewranger yma.

Hon oedd y daith hir gyntaf i mi ei gwneud eleni, ac er i mi fwynhau yn fawr mae’n deg dweud mod i’n reit stiff a diog heddiw! Bydd rhaid cael mwy o ymarfer cyn yr her nesaf, sef y Rhondda Rollercoaster ar y 12fed o Fai.

Dirgelwch y Bedol


This post looks at the possible history of a horseshoe that was found under our house near Whitchurch Common, Cardiff. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Photo 04-02-2018, 14 04 48Rydan ni wedi bod yn cael gwaith wedi ei wneud ar y tŷ yn ddiweddar, ac wrth gloddio wrth ochr y ty yn yr hydref daeth yr adeiladwyr o hyd i hen bedol rydlyd. Rŵan, gewch chi neb llai ofer-goelus na fi, ond dwi yn hoff o hen bethau, yn enwedig rhai sy’n fy nghysylltu efo’r gorffennol gwledig. Felly, yn ogystal â glanhau y bedol (asid sitrig a lot o sgwrio), dwi wedi bod yn ceisio canfod mwy o’i hanes hefyd.

I gychwyn, dyma edrych i weld ym mha gae y’i collwyd, a diolch i wefan Lleoedd Cymru LlGC mi allaf weld bod ein tŷ yn sefyll mewn cae o’r enw Pump Erw Waun oedd, yn 1840, yn rhan o fferm Ty’n y Parc. (Roedd ffermdy Ty’n y Parc ei hun yn ymyl lle mae’r orsaf betrol Tesco ar gornel Manor Way a Ffordd Ty’n y Parc heddiw). Pum Erw Waun ydi cae rhif 260 ar y map, ac mae’r triongl goch yn dangos lle ganfuwyd y bedol.

Photo 28-09-2017, 19 25 14

Map Degwn 1840 (Lleoedd Cymru)

Beth am ei hoedran felly? Codwyd y tŷ yn y 1930au – degawd a welodd y caeau glas i’r gogledd o Gaerdydd yn diflannu dan goncrid, gyda chodi’r strydoedd lu o ‘semis’ sy’n nodweddiadol o ardaloedd yr Eglwys Newydd, Rhiwbeina, Birchgrove a’r Mynydd Bychan. Rhaid felly ei bod yn o leiaf 80 oed, ond roeddwn am wybod mwy.

Darllen y cofnod yn llawn…